Croeso i Barc Gwyliau Ty Hen, sydd wedi ei leoli ar ochr Llyn Maelog, ger Rhosneigr ar Ynys Môn. Hawdd iawn yw cyrraedd traethau euraidd yr ardal, yn ogystal â phentref braf Rhosneigr - mae’r cyfan i’w ddarganfod o fewn tafliad carreg o’r safle. Mae golygfeydd godidog hefyd i’w gweld, gyda Phenllyn a mynyddoedd Eryri yn amlwg ar ddiwrnodau clir.